Bathodyn Pin Eryr Wen
Yr Eryr Wen - dyma oedd arwyddlun Byddin Rhyddid Cymru, neu’r FWA, a ffurfiwyd gan Cayo Evans yn ystod y chwedegau fel ffordd o godi ymwybyddiaeth am y frwydr dros Gymru weriniaethol. Mae’r ddelwedd yn seiliedig ar hen chwedl a phroffwydoliaeth fod eryr Eryri yn gwarchod Cymru, ac y bydd yr eryr, neu’r Mab Darogan, yn ymddangos rhyw ddydd pan fydd ei angen ar Gymru.
Yn ystod y chwedegau a’r saithdegau, roedd delweddau o'r Eryr Wen ac arwyddair y fyddin, ‘Fe godwn ni eto’, yn olygfeydd cyfarwydd ledled Cymru, ac er i Fyddin Rhyddid Cymru ddod i ben i bob pwrpas ddiwedd y chwedegau pan arestiwyd a dedfrydwyd sawl aelod ohoni, mae’r arwyddlun a'r arwyddair yn dal i gael eu defnyddio gan rai Cenedlaetholwyr hyd heddiw.
Dyma atgynhyrchiad o fathodyn metel oedd yn cael ei wisgo gan Cayo Evans ac aelodau eraill o’r FWA.