Poster Cymdeithas yr Iaith - Carw Piws

Poster Cymdeithas yr Iaith

Pris arferol £10

Disgrifiad

Os wyt ti wedi pasio drwy Talybont tu allan i Aberystwyth, ti siŵr o fod wedi gweld y llun o Nan Bowyer sy'n rhan o'r murlun enwog gan y Lolfa. Raymond Daniel oedd y ffotograffydd, ac mae'r llun eiconig o'r 'ferch yn y got hir' yn adlewyrchu ysbryd protest Cymdeithas yr Iaith gan mai mewn rali i gefnogi Dafydd Iwan y tynnwyd y llun ar ôl iddo gael ei arestio yn ystod yr ymgyrch arwyddion ffyrdd nôl yn 1970.

Mae 'tafod y ddraig', sef logo Cymdeithas yr Iaith, hefyd yn symbol eiconig o hanes y frwydr dros yr iaith, felly os oes gen ti ddiddordeb yn hanes y Gymdeithas ac yn yr achos, dyma'r poster delfrydol i ti!

Cer draw i wefan y Gymdeithas hefyd i gael rhagor o wybodaeth ac i ymaelodi er mwyn helpu i sicrhau dyfodol i'r ymgyrch dros dy iaith! www.cymdeithas.cymru

Gwybodaeth Postio