Poster Grav
Disgrifiad
Gwybodaeth
Postio
Roedd 2017 yn nodi 10 mlynedd ers i Gymru golli un o'u harwyr mwyaf, sef y cawr o Fynydd y Garreg, Ray Gravell.
Roedd Grav yn adnabyddus am fod yn chwaraewr rygbi heb ei ail (wedi chwarae i Lanelli, Cymru ac i'r Llewod), yn actor a chyflwynydd radio a theledu poblogaidd ac yn geidwad y cledd yn Ngorsedd y Beirdd. Ond yn fwy na hynny, roedd yn adnabyddus am fod yn ŵr hoffus a balch.
Yn 2000, cafodd wybod bod Diabetes ganddo ac yn 2007, 35 mlynedd i'r diwrnod ar ôl chwarae ei ran ym muddugoliaeth hanesyddol Llanelli yn erbyn y Crysau Duon, bu farw'n llawer rhy gynnar yn 56 oed.
Dyma ein poster ni fel teyrnged fach i Ray Gravell.
"Roedd caru Cymru ac ymfalchïo yng ngwerth ei phobl mor naturiol i Grav ag anadlu." - Yr Athro Hywel Teifi Edwards