Poster Tân yn Llŷn
Disgrifiad
Gwybodaeth
Postio
Ti siŵr o fod wedi clywed am Benyberth, neu'r Tân yn Llŷn, ond wyt ti'n gwybod beth oedd Penyberth (cyn bod yn ysgol fomio i'r wladwriaeth brydeinig) a pham roedd 'tri Penyberth' (a'r 4 arall fuodd yn eu helpu) yn teimlo mor gryf dros weithredu?
Ar nos Fawrth yr wythfed o Fedi 1936, aeth D. J. Williams, Lewis Valentine, a Saunders Lewis ati i losgi’r Ysgol Fomio. Ar ôl gweithredu, aeth y tri i orsaf yr heddlu i ddweud beth roedden nhw wedi’i wneud.
Dyma'r poster i gofio am y digwyddiad 'fflamychol' ym Mhen Llŷn yn 1936 sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn ein hanes ni!
"Beth am gynnau Tân fel y tân yn Llŷn?"