Poster Yma o Hyd
Disgrifiad
Gwybodaeth
Postio
Mae'n siŵr bod pawb yn gwybod pwy yw Dafydd Iwan a pawb wedi clywed ei gân enwog 'Yma o Hyd'! Ond os nad wyt ti, hola dy rieni - maen nhw'n siŵr o gofio'r llun eiconig yma yn ystod recordiad arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o garchar Caerdydd tua 2004.
Mae rhai'n awgrymu mai Dafydd Iwan yw ateb Cymru i Johnny Cash - Bad Boi heb ei ail; Cenedlaetholwr a chanwr sy'n codi dau fys (neu un yn yr achos yma) ar y sefydliad a'r frenhiniaeth! Mae eraill yn breuddwydio am weld Dafydd Iwan yn frenin ei hun rhyw ddydd ar y Gymru rydd, ond mae un peth yn sicr - mae'n un o'n wynebau mwyaf adnabyddus...ac ydy, mae Yma o Hyd!