bathodyn eryr wen cayo evans fe godwn ni eto i'r gad cymraeg cymru rydd fwa byddin rhyddid cymru
Bathodyn Pin Eryr Wen
Bathodyn Pin Eryr Wen

Bathodyn Pin Eryr Wen

Pris arferol £7

Disgrifiad

Yr Eryr Wen - dyma oedd arwyddlun Byddin Rhyddid Cymru, neu’r FWA, a ffurfiwyd gan Cayo Evans yn ystod y chwedegau fel ffordd o godi ymwybyddiaeth am y frwydr dros Gymru weriniaethol. Mae’r ddelwedd yn seiliedig ar hen chwedl a phroffwydoliaeth fod eryr Eryri yn gwarchod Cymru, ac y bydd yr eryr, neu’r Mab Darogan, yn ymddangos rhyw ddydd pan fydd ei angen ar Gymru.

Yn ystod y chwedegau a’r saithdegau, roedd delweddau o'r Eryr Wen ac arwyddair y fyddin, ‘Fe godwn ni eto’, yn olygfeydd cyfarwydd ledled Cymru, ac er i Fyddin Rhyddid Cymru ddod i ben i bob pwrpas ddiwedd y chwedegau pan arestiwyd a dedfrydwyd sawl aelod ohoni, mae’r arwyddlun a'r arwyddair yn dal i gael eu defnyddio gan rai Cenedlaetholwyr hyd heddiw.

Dyma atgynhyrchiad o fathodyn metel oedd yn cael ei wisgo gan Cayo Evans ac aelodau eraill o’r FWA.

Gwybodaeth Postio