GIFs a Sticeri Digidol
Os wyt ti'n chwilio am GIFs a sticeri yn iaith y nefoedd, ti wedi dod i'r lle iawn.
Mae gan ein sianeli GIPHY a Tenor dros 300 o GIFs a sticeri i ti eu rhannu gyda dy ffrindiau. Chwilia am y tag CARWPIWS ar dy ffôn ac fe ddylai ein GIFs a sticeri ymddangos. Fel arall, gelli di eu copïo oddi ar ap GIPHY, a'u gludo nhw'n syth mewn sgwrs.
Rydyn ni hefyd yn dylunio GIFs a sticeri digidol i rai o fudiadau mwyaf Cymru - os hoffet ein comisiynu neu drafod syniadau, mae croeso i ti gysylltu â ni.