Polisi Dychwelyd y Carw Piws

Rydyn ni'n gobeithio'n fawr byddi di'n hapus gyda dy archeb, ond os na fyddi di mae croeso i ti ddychwelyd yr eitemau, o fewn 14 diwrnod gwaith, am ad-daliad llawn neu i'w cyfnewid. Rhaid i bob eitem fod heb ei defnyddio ac yn ei phecyn gwreiddiol (gyda thagiau yn dal ar ddillad). Gwna'n siŵr dy fod yn selio ac yn amddiffyn pob pecyn yn dda a dy fod wedi cynnwys manylion yr archeb a'r rheswm dros ei dychwelyd. Cyfrifoldeb y cwsmer yw trefnu a thalu am ddychwelyd cynnyrch ac rydyn ni'n dy argymell i gadw tystiolaeth o bostio gan na fydd y Carw Piws yn cymryd cyfrifoldeb os bydd eitemau yn mynd ar goll yn y post neu'n cael eu difrodi wrth gael eu dychwelyd.

Os bydd dy nwyddau wedi eu difrodi neu'n anghywir, cysyllta â ni drwy e-bost o fewn 24 awr o'u derbyn ac fe wnawn ni ein gorau i'w hamnewid. Dylai'r nwyddau gael eu dychwelyd, ynghyd ag unrhyw becynnu gwreiddiol, o fewn 7 diwrnod i ti eu derbyn.

Ni fydd costau postio a phecynnu yn cael eu had-dalu oni bai fod y nwyddau'n wallus neu'n anghywir, neu mai'r Carw Piws sydd ar fai.

 

CYFRADDAU POSTIO

Mae ein cyfraddau postio i'w gweld ar y dudalen yma.