Telerau ac Amodau Tocynnau Anrheg y Carw Piws
- Mae cwponau'r carw piws i'w defnyddio ar wefan y Carw Piws (www.carwpiws.cymru) yn unig
- Ni ellir cyfnewid cwponau am arian parod
- Ni ellir defnyddio cwpon ar y cyd ag unrhyw gynnig neu god arall
- Rhaid defnyddio holl werth y cwpon mewn un pryniant - ni fydd unrhyw swm sydd heb ei wario yn cael ei ad-dalu
- Ni fydd unrhyw gwpon sy'n cael ei ddwyn, sy'n mynd ar goll neu sy'n cael ei ddefnyddio heb awdurdod yn cael ei ailgyflenwi
- Gall prisiau newid ar unrhyw adeg
- Rhaid defnyddio cwponau o fewn 12 mis i'r dyddiad prynu
- Drwy brynu, derbyn neu ddefnyddio'r cwpon rwyt ti'n derbyn yr amodau a thelerau yma.