Polisi Cwcis y Carw Piws

 BETH YW CWCIS?   
Ffeiliau testun bach yw cwcis sy'n cael eu gosod ar dy gyfrifiadur, dy ffôn neu dy lechen gan wefannau pan fyddi di'n ymweld â nhw. Maen nhw'n cael eu defnyddio'n helaeth er mwyn sicrhau bod gwefannau'n gweithio'n fwy effeithlon, ac i ddarparu gwybodaeth ddi-enw i berchnogion y safle. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio'n gwefan, gallwn wneud gwelliannau er mwyn gwneud y safle'n haws i'w ddefnyddio.

RHEOLI CWCIS
Mae'r rhan fwyaf o borwyr yn rhoi rhywfaint o reolaeth i ti dros y cwcis sy'n cael eu gosod ar dy gyfrifiadur drwy osodiadau dy borwr gwe. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod, a sut i'w rheoli a'u dileu, cer i wefan AllAboutCookies (www.allaboutcookies.org).

PA GWCIS SY'N CAEL EU DEFNYDDIO AC I BA DDIBEN
Mae ein gwefan yn cael ei chadw ar weinydd Shopify Inc. Nhw sy’n darparu’r llwyfan e-fasnachu angenrheidiol er mwyn i ni werthu cynnyrch a gwasanaethau i ti. Mae polisi cwcis llawn Shopify i’w weld yma.

Mae rhai o’r cwcis sy’n cael eu defnyddio yn angenrheidiol er mwyn dy alluogi di i bori ein gwefan, i ddefnyddio nodweddion y wefan ac i gael mynediad at ardaloedd diogel ar y wefan (fel y tudalennau talu).

DOLENNI I WEFANNAU ERAILL
O dro i dro byddwn yn creu dolenni sy'n dy anfon at wefannau eraill. Dylet gyfeirio at bolisïau cwcis a phreifatrwydd y safleoedd dan sylw i gael rhagor o wybodaeth.

CYDSYNIO ÂR CYTUNDEB YMA
Drwy glicio’r botwm ‘Derbyn’ ar waelod y dudalen hafan rwyt ti’n rhoi caniatâd i ni gasglu a defnyddio’r wybodaeth fel a nodwyd uchod. Os byddwn yn penderfynu newid ein polisi preifatrwydd byddwn yn diweddaru’r polisi yma fel dy fod yn ymwybodol o ba wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu.

Diweddarwyd ddiwethaf: Tachwedd 2023