Bathodyn Pin Enamel Mordecai
Disgrifiad
Gwybodaeth
Postio
"Mae'r byd yn llawn o ddynion drwg, ond neb mor ddrwg â fi!"...
Pwy sy'n cofio'r ffilm Nadoligaidd Gymraeg Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig? Dyma atgynhyrchiad o logo Mordecai, sef y dihiryn oedd yn cael ei chwarae'n wych gan Meic Povey.
"Eich arweinydd, hogia', pwy di'r bos?" "Mor-de-cai!" "Ie, heb os nac oni bai...!" "Mor-de-cai!"
Ychwanega'r bathodyn unigryw yma at dy gasgliad!